Yn fynych, fynych, Iesu cu,
Datguddia'th hun i'm henaid i;
Mewn 'stormydd mawr yn wastad gâd
Im' allu llefain, "Abba, Dad."
Gwna fi'n gyfarwydd iawn o hyd
Yn ffyrdd d'orch'mynion
yn y byd;
Na ad i bechod roi im' glwy',
Nac ofnau angau ' mlino mwy.
Tra caffwyf rodio'r ddaear hon,
Rho'th hedd fel afon dan fy mron;
Ac yn y diwedd moes dy law
I'm dwyn o'r byd
i'r nefoedd draw.
-  - - - - (Y Cyfaill goreu)
Yn fynych fynych Iesu cu,
Datguddia'th fod yn eiddo i mi;
Mewn 'stormydd mawr yn wastad gad,
I'm ddysgu llefain Abba Dad.
Yr Oen a laddwyd ydyw rhan,
A holl hyfrydwch fy enaid gwan:
Fy Mrawd a Mhriod
fydd e' mwy,
Yn mhob cyfyngder elwy' trwy.
Wrth droi fy ngolwg yma lawr,
I gyrau'r holl gre'digaeth fawr;
Gwrthddrych ni wel fy enaid gwan,
Ond Iesu i bwyso arno'n rhan.
Pwy wrendy ruddfan f'enaid gwan,
Pwy'm c'od o'm holl ofidiau i'r làn?
Pwy garia'm baich
fel Brenin ne',
Pwy gydymdeimla fel efe.
Wel, dyma un, O d'wedwch ple,
Y ffeindir arall fel efe;
A bery'n ffyddlon im' o hyd,
Y'mhob rhyw drallod yn y byd.
William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Bendigaid fyth fo enw Duw ('R hwn wnaeth ...) Fy unig gysur dan y ne' O Arglwydd gwna fi'n golofn gre' 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' Wrth droi fy ngolwg [yma i lawr / yma'n awr] Yr Oen a laddwyd ydyw rhan |
Often, often, dear Jesus,
Reveal thyself to my soul;
In the great storms continually let
Me be able to say, "Abba, Father."
Make me very familiar always
With the ways of thy commandments
in the world;
Not for sin to give me a wound,
Nor fears of death worry me any more.
While I may roam this earth,
Give thy peace like a river under my breast;
And in the end give thy hand
To lead me from the world
to the heavens yonder.
-  - - - - (The best Friend)
Often, often, dear Jesus,
Reveal that thou dost belong to me;
In great storms constantly let
Me learn to cry Abba Father.
The Lamb who was slain is the portion,
All the delight of my weak soul:
My Brother and Spouse
he shall be evermore,
In every strait I go through.
On turning my gaze here down,
To the corners of all the great creation;
No object may my weak soul see,
But Jesus to lean upon as a portion.
Who shall hear the groans of my weak soul,
Who shall rise me up from all my griefs?
Who shall carry my burden
like the King of heaven,
Who shall sympathise like he?
See, here is one, O tell ye where,
Another may be found like he;
Who will remain faithful to me always,
In every kind of trouble in the world.
tr. 2008,22 Richard B Gillion
|
|